Text Box: Ken Skates AC
 Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
 Llywodraeth Cymru
 Tŷ Hywel
 Bae Caerdydd CF99 1NA 23 Medi 2016

Annwyl Ysgrifennydd y Cabinet

Sesiwn Graffu: Blaenoriaethau ar gyfer y Pumed Cynulliad

Diolch i chi am ddod i gyfarfod y Pwyllgor ar 14 Medi ac am ateb cwestiynau'r Aelodau.  Yn gyntaf oll, a gaf i eich llongyfarch ar eich penodiad a dymuno'r gorau i chi ar ran y Pwyllgor wrth ichi ymgymryd â'ch cyfrifoldebau newydd.

Fel y byddwch yn ei werthfawrogi, roedd y sesiwn yn gyfle cychwynnol i'r Pwyllgor ymgyfarwyddo â'ch cyfrifoldebau a'ch holi chi am eich blaenoriaethau cyfredol.  Mae'r Pwyllgor yn dal i ffurfio ei flaenoriaethau ei hun ar gyfer craffu ac adolygu polisi.  Gwn fod y Pwyllgor yn edrych ymlaen at y cyfle i'ch holi'n fanylach ynghylch agweddau penodol ar eich cyfrifoldebau unwaith y bydd ein rhaglen waith yn gliriach.

Mae swyddogion y Pwyllgor eisoes wedi cysylltu â'ch swyddogion chi ynghylch rhai o'r ymrwymiadau a wnaethoch yn y cyfarfod.  Yn benodol, fe wnaethoch gytuno i roi rhagor o wybodaeth ynghylch:

-        Cymru Hanesyddol - sut y bydd yn gweithio a beth fydd ei gylch gorchwyl;

-        y cynllun newydd ar gyfer amgueddfeydd yng Cymru;

-        y rhaglenni 'Cyfuno' a 'celfyddydau a dysgu creadigol';

-        y 'Fforwm Cyfryngau', gan gynnwys ei flaenraglen waith.

 

O ran y pwynt olaf hwnnw a'r mân ddryswch sydd wedi codi ynglŷn â chyfrifoldeb Gweinidogol ar gyfer y Fforwm, rwyf wedi ysgrifennu ar wahân at Alun Davies, a roddodd dystiolaeth inni'n ddiweddarach yn y cyfarfod.  Rwyf wedi gofyn i Alun a fyddai'n bosibl iddo egluro'r sefyllfa, ac rwyf wedi anfon copi o'r llythyr hwnnw atoch chithau.

Roedd yr Aelodau'n ddiolchgar ichi am gynnig sesiynau briffio cefndirol ar Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 a'r broses o'i weithredu.  Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i mi pwy y dylai'r Aelodau gysylltu â hwy os ydynt yn dymuno manteisio ar y cynnig hwn yn y tymor byr.  Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol cynnal sesiwn friffio i'r Pwyllgor cyfan rhywbryd pan fydd ein rhaglen waith yn gliriach.  Os felly, byddaf yn ysgrifennu atoch eto.

Edrychaf ymlaen at eich ymateb.  Rwy'n anfon copi o'r llythyr hwn at Alun Davies er gwybodaeth iddo o ran y Fforwm Cyfryngau. 

Yn gywir

Bethan Jenkins AC

Cadeirydd